RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1LL+CCOFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Amodau cofrestruLL+C

28Amodau cofrestru parhaus cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu amodau cofrestru parhaus cyffredinol a’u cyhoeddi.

(2)Caniateir i amodau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(3)Mewn perthynas â chategori cofrestru, caniateir i amodau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddarparwr addysg drydyddol.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol mewn ffordd sy’n nodi’r categori cofrestru y mae’r amod yn gymwys iddo.

(5)Caiff y Comisiwn ddiwygio’r amodau.

(6)Os yw’r Comisiwn yn diwygio’r amodau, rhaid iddo gyhoeddi’r amodau fel y’u diwygiwyd.

(7)Cyn penderfynu’r amodau neu eu diwygio, rhaid i’r Comisiwn, os yw’n ymddangos iddo ei bod yn briodol gwneud hynny, ymgynghori‍ â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(8)Caiff y Comisiwn, ar adeg cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr neu’n ddiweddarach, benderfynu nad yw unrhyw un neu ragor o’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol sy’n gymwys i gofrestriad yn y categori hwnnw yn gymwys i’r darparwr, yn ddarostyngedig i’r gofynion o dan y Rhan hon sy’n ymwneud ag amodau cofrestru parhaus mandadol.

(9)Pan fo’r penderfyniad wedi ei wneud ar ôl cofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori hwnnw o’r gofrestr, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am ei benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 28 mewn grym ar 5.4.2025 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2025/432, ergl. 2(c)

I3A. 28(1)-(3) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(r)