RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Y gofrestr a’r weithdrefn gofrestru
26Y weithdrefn gofrestru
(1)
Cyn gwrthod cais i gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr ei fod yn bwriadu gwneud hynny.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)
rhesymau’r Comisiwn dros fwriadu gwrthod cofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori,
(b)
y cyfnod pan gaiff corff llywodraethu’r darparwr gyflwyno sylwadau ynghylch yr hyn y mae’r Comisiwn yn bwriadu ei wneud (“y cyfnod penodedig”), ac
(c)
y ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.
(3)
Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.
(4)
Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan gorff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol yn unol â’r hysbysiad wrth benderfynu pa un ai i’w gofrestru yn y categori.
(5)
Ar ôl penderfynu pa un ai i gofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori ai peidio, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am ei benderfyniad.
(6)
Pan mai cofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)
dyddiad y cofnod yn y gofrestr yn y categori, a
(b)
yr amodau cofrestru parhaus sy’n gymwys i gofrestriad y darparwr yn y categori ar yr adeg honno.
(7)
Pan mai gwrthod cofrestru’r darparwr yn y categori yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)
y sail dros wrthod,
(b)
gwybodaeth o ran yr hawl i gael adolygiad, ac
(c)
y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 79(4)(c) y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud ynddo.