(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Ddeddf hon fel “y gofrestr”).
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu un neu ragor o gategorïau cofrestru y mae rhaid i’r Comisiwn wneud darpariaeth ar eu cyfer yn y gofrestr.
(3)Rhaid i gategori cofrestru a bennir yn y rheoliadau ymwneud â darparu un neu ragor o fathau o addysg drydyddol.
(4)Rhaid i’r Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr—
(a)os yw ei gorff llywodraethu yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru yn y categori,
(b)os yw’n ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru,
(c)os yw’n darparu’r math o addysg drydyddol sy’n ymwneud â’r categori, neu os yw’r math hwnnw o addysg drydyddol yn cael ei ddarparu ar ei ran,
(d)os yw’n bodloni’r amodau cofrestru cychwynnol sy’n gymwys iddo mewn cysylltiad â’r cofrestriad a geisir (gweler adran 27),
(e)os nad yw cofrestru wedi ei wahardd gan ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan is-adran (5), ac
(f)os yw’r cais yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (7).
(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wahardd cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn un categori o’r gofrestr ar yr un pryd ag y mae wedi ei gofrestru mewn un neu ragor o’r categorïau eraill.
(6)Ni chaiff y Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr ac eithrio—
(a)mewn categori cofrestru a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (2);
(b)yn unol ag is-adran (4), adran 44 (newid categori cofrestru heb gais) ac unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (5).
(7)Caiff y Comisiwn benderfynu—
(a)ffurf cais i gofrestru,
(b)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cais neu sydd i’w darparu gydag ef, ac
(c)y ffordd y mae cais i’w gyflwyno.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr.
(9)Unwaith y bydd wedi ei gofrestru, mae cofrestriad parhaus darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr yn ddarostyngedig i’r darparwr fodloni—
(a)yr amodau cofrestru parhaus cyffredinol sy’n gymwys i gofrestriad y darparwr yn y categori ac fel y gallant gael eu diwygio’n ddiweddarach (gweler adran 28), a
(b)yr amodau cofrestru parhaus penodol (os oes rhai) a osodir arno yn y categori cofrestru hwnnw ac fel y gallant gael eu hamrywio’n ddiweddarach (gweler adran 29).
(10)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at amodau cofrestru parhaus darparwr addysg drydyddol yn gyfeiriadau at yr amodau a grybwyllir yn is-adran (9)(a) a (b).
(11)Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr, a’r wybodaeth a gynhwyswyd ynddi yn flaenorol, ar gael i’r cyhoedd drwy’r cyfrwng y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 25 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(l)
I3A. 25(1)(4)(6)(a)(b) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(m)
I4A. 25(2)(3)(5)(6), (8)-(11) mewn grym ar 5.4.2025 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2025/432, ergl. 2(a)
I5A. 25(4)(d) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(n)
I6A. 25(7) mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(j)
I7A. 25(9)(a) mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 3(o)
I8A. 25(10) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(o)