Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ar gyfer pobl Cymru—
(a)sy’n darparu cyfleoedd i bobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol drwy gydol eu bywydau o 16 oed;
(b)sy’n cynnwys amrywiaeth o lefelau astudio a mathau o gymhwyster;
(c)sy’n cynnwys amrywiaeth o leoliadau addysgol a dulliau astudio;
(d)sydd wedi ei threfnu’n gydlynol i hwyluso symudiad dysgwyr drwy gamau gwahanol addysg drydyddol ac i gyflogaeth neu fusnes;
(e)sydd fel arall yn bodloni gofynion gwahanol y rheini a all ddymuno ymgymryd ag addysg drydyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 2 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(a)
I3A. 2 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)