RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Dyletswyddau strategol y Comisiwn
2Hybu dysgu gydol oes
Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ar gyfer pobl Cymru—
(a)
sy’n darparu cyfleoedd i bobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol drwy gydol eu bywydau o 16 oed;
(b)
sy’n cynnwys amrywiaeth o lefelau astudio a mathau o gymhwyster;
(c)
sy’n cynnwys amrywiaeth o leoliadau addysgol a dulliau astudio;
(d)
sydd wedi ei threfnu’n gydlynol i hwyluso symudiad dysgwyr drwy gamau gwahanol addysg drydyddol ac i gyflogaeth neu fusnes;
(e)
sydd fel arall yn bodloni gofynion gwahanol y rheini a all ddymuno ymgymryd ag addysg drydyddol.