RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Cydnawsedd â chyfraith elusennau

19Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu darparwyr addysg drydyddol

(1)

Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon sy’n rhoi pŵer i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—

(a)

ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y darparwr yn elusen, neu

(b)

â dogfennau llywodraethu’r darparwr.

(2)

At ddibenion is-adran (1), dogfennau llywodraethu darparwr addysg drydyddol yw—

(a)

yn achos darparwr a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol—

(i)

Siarter y darparwr, a

(ii)

unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y darparwr, y mae’n ofynnol i’r Cyfrin Gyngor gymeradwyo ei wneud neu ei ddiwygio;

(b)

yn achos darparwr sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch (o fewn yr ystyr a roddir i “higher education corporation” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)), offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r gorfforaeth;

(c)

yn achos darparwr sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach (o fewn yr ystyr a roddir i “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992), offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r gorfforaeth;

(d)

yn achos darparwr sy’n sefydliad a ddynodir o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r darparwr;

(e)

yn achos darparwr sy’n ysgol, offeryn llywodraethu’r ysgol (os oes un);

(f)

yn achos darparwr‍ sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu’r cwmni.