RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Rhyddid academaidd ac awtonomi sefydliadol
17Rhyddid academaidd darparwyr a staff addysg uwch
(1)
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Comisiwn roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n —
(a)
darparu addysg uwch (i’r graddau y mae’r rhyddid yn ymwneud ag addysg uwch neu ymchwil ac arloesi), a
(b)
staff academaidd y darparwyr hynny.
(2)
Yn yr adran hon, ystyr “rhyddid academaidd” yw—
(a)
mewn perthynas â darparwyr addysg drydyddol, eu rhyddid i benderfynu—
(i)
cynnwys cyrsiau addysg uwch pendool a’r modd y cânt eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,
(ii)
y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, a
(iii)
y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol;
(b)
mewn perthynas â staff academaidd, eu rhyddid o fewn y gyfraith—
(i)
i gwestiynu a phrofi doethineb cyffredin, a
(ii)
i gyflwyno syniadau newydd a lleisio barn ddadleuol neu amhoblogaidd,
heb eu rhoi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau a all fod ganddynt yn y darparwyr addysg drydyddol.