RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Strategaeth ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil
16Adolygu’r cynllun strategol
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio eu datganiad o dan adran 13(2) ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy o dan adran 15(5), rhaid i’r Comisiwn adolygu ei gynllun strategol.
(2)
Caiff y Comisiwn adolygu ei gynllun strategol ar unrhyw adeg arall.
(3)
Caiff y Comisiwn ddiwygio ei gynllun strategol ar ôl adolygiad o dan is-adran (1) neu (2) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(4)
Os yw’r Comisiwn yn diwygio ei gynllun strategol, mae adran 14 yn gymwys mewn perthynas â diwygio’r cynllun fel y mae’n gymwys mewn perthynas â llunio cynllun.
(5)
Rhaid i’r Comisiwn anfon ei gynllun strategol diwygiedig at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—
(a)
pan fo’r diwygio o ganlyniad i adolygiad o dan is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r diwygiadau i’w datganiad, neu
(b)
pan fo’r diwygio o ganlyniad i adolygiad o dan is-adran (2), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6)
Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 15 yn gymwys i gynllun a ddiwygir o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i gynllun a lunnir o dan adran 14.