RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Strategaeth ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil

15Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu’r cynllun strategol

(1)

Rhaid i’r Comisiwn anfon cynllun strategol a lunnir o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad o dan adran 13(1).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

cymeradwyo’r cynllun, neu

(b)

cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru‍ geisio cytundeb y Comisiwn i bob addasiad y maent yn bwriadu ei wneud i gynllun cyn iddynt ei addasu o dan is-adran (2)(b).

(4)

Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun sy’n cynnwys addasiad nad yw’r Comisiwn yn cytuno iddo—

(a)

rhaid i Weinidogion Cymru roi rhesymau dros yr addasiad hwnnw i’r Comisiwn, a

(b)

rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru pan fydd yn cyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy.

(5)

Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy.

(6)

Caiff y Comisiwn gyhoeddi ei ddatganiad ynghylch amcanion llesiant o dan adran 7 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) drwy ei gynnwys yn ei gynllun strategol cymeradwy.

(7)

Rhaid i’r Comisiwn gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol cymeradwy.