RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
146Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—
(a)
darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)
darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).