RHAN 7LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

CyffredinolLL+C

145Pŵer i ddarparu i’r Brifysgol Agored gael ei thrin fel darparwr addysg drydyddol yng NghymruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu i’r Brifysgol Agored gael ei thrin fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru at ddiben unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu unrhyw ddarpariaeth a wneir odani.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu effaith darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu ddarpariaeth a wneir odani, i’r graddau y mae’n gymwys i’r Brifysgol Agored, pa un ai fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru neu fel darparwr cofrestredig (os daw’n un).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 145 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 148(1)(a)