RHAN 7LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

CyffredinolLL+C

142CyhoeddiLL+C

(1)Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi unrhyw beth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi—

(a)yn electronig, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Mae’r ddyletswydd i gyhoeddi yn electronig—

(a)yn ddyletswydd i ddarparu mynediad yn rhad ac am ddim, a

(b)yn ddyletswydd i gyhoeddi ar wefan y person, os oes gan y person un.

(3)Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (1)(b) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 142 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(t)