RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

142Cyhoeddi

(1)

Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi unrhyw beth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi—

(a)

yn electronig, a

(b)

mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)

Mae’r ddyletswydd i gyhoeddi yn electronig—

(a)

yn ddyletswydd i ddarparu mynediad yn rhad ac am ddim, a

(b)

yn ddyletswydd i gyhoeddi ar wefan y person, os oes gan y person un.

(3)

Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (1)(b) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gyhoeddi.