RHAN 6GWYBODAETH, CYNGOR A CHANLLAWIAU

136Ymchwil gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru

(1)

Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru wneud ymchwil, neu sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu i bersonau sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud ymchwil, mewn perthynas—

(a)

ag addysg drydyddol Gymreig;

(b)

ag addysg arall neu hyfforddiant arall—

(i)

a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu

(ii)

i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)

ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig ag addysg neu hyfforddiant‍ a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b);

(d)

ag unrhyw fater arall sy’n berthnasol i swyddogaethau’r Comisiwn.

(2)

Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru gyhoeddi, neu wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi, ganlyniadau’r ymchwil honno cyhyd ag na ellir adnabod unrhyw unigolyn y mae’r ymchwil yn ymwneud ag ef o’r cyhoeddiad.

(3)

Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1)—

(a)

drwy ddarparu adnoddau ei hunan neu eu hunain;

(b)

drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan berson arall;

(c)

drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan bersonau ar y cyd (pa un a yw hynny yn cynnwys y Comisiwn neu Weinidogion Cymru ai peidio).

(4)

Os yw’r Comisiwn ei hunan, neu Weinidogion Cymru eu hunain, yn darparu adnoddau ariannol o dan is-adran (1), caniateir iddo neu iddynt osod y telerau a’r amodau hynny y mae neu y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)

Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)

galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)

ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(6)

Os yw’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau o dan is-adran (3)(b) i berson arall ddarparu adnoddau ariannol y Comisiwn, caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan is-adran (5)).