RHAN 6LL+CGWYBODAETH, CYNGOR A CHANLLAWIAU

135Gwybodaeth arall, cyngor arall a chanllawiau eraillLL+C

(1)Caiff y Comisiwn roi cyngor a dyroddi canllawiau (pa un ai’n gyffredinol neu’n benodol) i unrhyw berson ynghylch darparu addysg drydyddol neu unrhyw fater sy’n gysylltiedig â swyddogaethau’r Comisiwn.

(2)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)nodi arferion da mewn perthynas â rhannu gwybodaeth gan y personau a bennir yn is-adran (3), a

(b)rhoi cyngor a dyroddi canllawiau ar arferion o’r fath i’r personau hynny.

(3)Y personau a bennir yn yr is-adran hon yw—

(a)darparwr cofrestredig,

(b)person ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi unrhyw ganllawiau y mae’n eu dyroddi o dan is-adrannau (1) a (2).

(5)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu systemau ar gyfer casglu gwybodaeth sydd wedi eu dylunio i sicrhau bod ei benderfyniadau o ran addysg drydyddol yn cael eu gwneud ar sail gadarn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 135(1)(2)(4)(5) mewn grym ar 1.8.2024 gan O.S. 2024/806, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 28)

I3A. 135(3) mewn grym ar 1.8.2024 gan O.S. 2024/806, ergl. 9(1) (ynghyd ag erglau. 9(2), 28)