RHAN 6GWYBODAETH, CYNGOR A CHANLLAWIAU

133Pŵer i’w gwneud yn ofynnol rhoi gwybodaeth o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (2) roi iddynt neu i’r Comisiwn yr wybodaeth honno o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig a ddisgrifir yn yr hysbysiad, at ddefnydd ymchwil gymhwysol.

(2)

Mae person o fewn yr is-adran hon yn un sy’n darparu gwasanaethau i un neu ragor o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch sy’n ymwneud â cheisiadau am le ar gyrsiau addysg uwch a ddarperir ganddynt.

(3)

Ystyr “gwybodaeth o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig” yw gwybodaeth sy’n ymwneud—

(a)

â cheisiadau am le ar gyrsiau addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch (gan gynnwys graddau a ragfynegir),

(b)

â chynigion a gwrthodiadau a roddir i unigolion mewn cysylltiad â cheisiadau am le ar y cyrsiau hynny, neu

(c)

â derbyn cynigion o’r fath.

(4)

Ystyr “ymchwil gymhwysol” yw—

(a)

ymchwil i’r dewisiadau sydd ar gael i unigolion—

(i)

sy’n gwneud cais am le ar gyrsiau addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch, neu

(ii)

sy’n ystyried pa un ai i dderbyn cynnig o le ar gwrs o’r fath gan ddarparwr o’r fath;

(b)

ymchwil i gyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch a chymryd rhan yn yr addysg uwch honno;

(c)

ymchwil i unrhyw bwnc arall a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

(5)

Caiff hysbysiad o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi—

(a)

erbyn amser a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)

ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.

(6)

Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan is-adran (1) ac os nad yw’n bodloni Gweinidogion Cymru na ellir rhoi’r wybodaeth a ddisgrifir yn yr hysbysiad, mae’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r hysbysiad yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan Weinidogion Cymru.