(1)Rhaid i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi cod (“y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr”) ynghylch cynnwys personau sy’n cael addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr perthnasol (“dysgwyr”) wrth i’r darparwr wneud penderfyniadau perthnasol.
(2)Caiff y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr gynnwys darpariaeth ynghylch y canlynol (ymhlith pethau eraill)—
(a)sut y gellir sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli’n effeithiol wrth i’r darparwr perthnasol wneud penderfyniadau perthnasol,
(b)sut y gellir sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan wrth i’r darparwr perthnasol wneud penderfyniadau perthnasol, ac
(c)sut y gellir sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i roi eu barn i’r darparwr perthnasol ar yr addysg drydyddol y maent yn ei chael ac ar faterion eraill a all fod o ddiddordeb i ddysgwyr neu y gall fod ganddynt fuddiant ynddynt.
(3)Rhaid i’r Comisiwn gadw’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr o dan adolygiad ac os yw’n ystyried ei bod yn briodol, rhaid iddo lunio a chyhoeddi cod diwygiedig (ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn cynnwys unrhyw god diwygiedig).
(4)Caiff darpariaeth yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.
(5)Wrth lunio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr neu’r cod diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.
(6)Caiff y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer darparwyr perthnasol gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o ddarparwr perthnasol).
(7)Rhaid i’r Comisiwn fonitro cydymffurfedd gan ddarparwyr perthnasol â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.
(8)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran effeithiolrwydd y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(9)Yn yr adran hon—
ystyr “darparwr perthnasol” (“relevant provider”) yw—
darparwr cofrestredig;
darparwr addysg drydyddol yng Nghymru ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan—
adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),
adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu
adran 104(1)(a) (prentisiaethau);
corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;
ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw penderfyniad am faterion a all fod o ddiddordeb i ddysgwyr ar gyrsiau neu y gall fod buddiant ynddynt gan ddysgwyr ar gyrsiau—
a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,
pan fônt yn cael eu darparu gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol ac eithrio darparwr cofrestredig, a gyllidir gan y Comisiwn o dan—
adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),
adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu
adran 104(1)(a) (prentisiaethau), neu
a ddarperir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 129 mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(jj)