RHAN 5DIOGELU DYSGWYR, GWEITHDREFNAU CWYNO AC YMGYSYLLTU Â DYSGWYR

129Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

(1)

Rhaid i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi cod (“y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr”) ynghylch cynnwys personau sy’n cael addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr perthnasol (“dysgwyr”) wrth i’r darparwr wneud penderfyniadau perthnasol.

(2)

Caiff y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr gynnwys darpariaeth ynghylch y canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)

sut y gellir sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli’n effeithiol wrth i’r darparwr perthnasol wneud penderfyniadau perthnasol,

(b)

sut y gellir sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan wrth i’r darparwr perthnasol wneud penderfyniadau perthnasol, ac

(c)

sut y gellir sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i roi eu barn i’r darparwr perthnasol ar yr addysg drydyddol y maent yn ei chael ac ar faterion eraill a all fod o ddiddordeb i ddysgwyr neu y gall fod ganddynt fuddiant ynddynt.

(3)

Rhaid i’r Comisiwn gadw’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr o dan adolygiad ac os yw’n ystyried ei bod yn briodol, rhaid iddo lunio a chyhoeddi cod diwygiedig (ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn cynnwys unrhyw god diwygiedig).

(4)

Caiff darpariaeth yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.

(5)

Wrth lunio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr neu’r cod diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)

Caiff y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer darparwyr perthnasol gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o ddarparwr perthnasol).

(7)

Rhaid i’r Comisiwn fonitro cydymffurfedd gan ddarparwyr perthnasol â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.

(8)

Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran effeithiolrwydd y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(9)

Yn yr adran hon—

ystyr “darparwr perthnasol” (“relevant provider”) yw—

(a)

darparwr cofrestredig;

(b)

darparwr addysg drydyddol yng Nghymru ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan—

  1. (i)

    adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),

  2. (ii)

    adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu

  3. (iii)

    adran 104(1)(a) (prentisiaethau);

(c)

corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;

ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw penderfyniad am faterion a all fod o ddiddordeb i ddysgwyr ar gyrsiau neu y gall fod buddiant ynddynt gan ddysgwyr ar gyrsiau—

(a)

a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,

(b)

pan fônt yn cael eu darparu gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol ac eithrio darparwr cofrestredig, a gyllidir gan y Comisiwn o dan—

  1. (i)

    adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),

  2. (ii)

    adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu

  3. (iii)

    adran 104(1)(a) (prentisiaethau), neu

(c)

a ddarperir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru.