RHAN 5DIOGELU DYSGWYR, GWEITHDREFNAU CWYNO AC YMGYSYLLTU Â DYSGWYR

127Gweithdrefnau cwyno

(1)

Rhaid i’r Comisiwn gymryd unrhyw gamau y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol er mwyn sicrhau—

(a)

bod gan ddarparwr addysg drydyddol weithdrefn yn ei lle ar gyfer ymchwilio i gwynion am weithred neu anweithred gan y darparwr a wneir gan bersonau sy’n ymgymryd, neu sydd wedi ymgymryd, â chyrsiau perthnasol, a

(b)

bod darparwr addysg drydyddol yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i bersonau sy’n ymgymryd â chyrsiau perthnasol am y weithdrefn.

(2)

Am ystyr “cwrs perthnasol” a “darparwr addysg drydyddol”, gweler adran 126(10).