RHAN 4PRENTISIAETHAU

Darpariaethau atodol ynghylch cytundebau prentisiaethau

124Gweision y Goron

(1)

Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â chytundeb y mae person yn ymgymryd â chyflogaeth y Goron odano fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gytundeb arall y mae person yn ymgymryd â gweithio i berson arall odano.

(2)

Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i is-adran (3) ac i unrhyw addasiadau y caniateir darparu ar eu cyfer o dan is-adran (5).

(3)

Nid yw adran 122(2) yn gymwys mewn perthynas â chytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy sy’n gytundeb o fewn is-adran (1).

(4)

Heb ragfarnu adran 143(2), caniateir i’r pŵer a roddir gan adran 112(1)(c) gael ei arfer, yn benodol, i wneud darpariaeth mewn perthynas â chytundeb prentisiaeth sy’n gytundeb o fewn is-adran (1) sy’n wahanol i ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â chytundebau eraill y mae person i weithio i rywun arall odanynt.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau mewn perthynas—

(a)

â chytundeb o fewn is-adran (1), neu

(b)

â person sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, o dan gytundeb o’r fath.

(6)

Yn is-adran (1), ystyr “cyflogaeth y Goron” yw cyflogaeth o dan neu at ddibenion Llywodraeth Cymru, un o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw swyddog neu gorff sy’n arfer, ar ran y Goron, swyddogaethau a roddir gan ddarpariaeth statudol (ond nid yw’n cynnwys gwasanaeth fel aelod o lynges, byddin neu lu awyr y Goron).