RHAN 4PRENTISIAETHAU
Darpariaethau atodol ynghylch cytundebau prentisiaethau
122Statws cytundebau prentisiaethau Cymreig cymeradwy
1
I’r graddau y byddai fel arall yn cael ei drin fel pe bai’n gontract prentisiaeth, mae cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy i’w drin fel pe na bai’n gontract prentisiaeth.
2
I’r graddau na fyddai fel arall yn cael ei drin fel pe bai’n gontract gwasanaeth, mae cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy i’w drin fel pe bai’n gontract gwasanaeth.
3
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol.