RHAN 4PRENTISIAETHAU
Darpariaethau atodol ynghylch cytundebau prentisiaethau
121Darpariaethau aneffeithiol mewn cytundebau prentisiaethau Cymreig cymeradwy
(1)
Os yw cytundeb—
(a)
yn cynnwys darpariaeth sy’n bodloni’r amodau a grybwyllir yn adran 112(1)(a) i (c), ond
(b)
hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n anghyson â’r amodau hynny,
mae’r ddarpariaeth arall i’w thrin fel pe na bai’n cael unrhyw effaith.
(2)
Cyn amrywio cytundeb sy’n bodloni’r amodau a grybwyllir yn adran 112(1)(a) i (c)mewn ffordd fel nad yw’n bodloni un neu ragor o’r amodau hynny mwyach, rhaid i’r person y mae’r prentis yn gweithio iddo roi hysbysiad i’r prentis.
(3)
Rhaid i’r hysbysiad esbonio, os yw’r amrywiad yn cymryd effaith, y bydd y cytundeb yn peidio â bod yn gytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy.
(4)
Os yw cytundeb yn cael ei amrywio gan dorri’r gofyniad yn is-adran (2), nid yw’r amrywiad yn cael unrhyw effaith.