RHAN 1LL+CFFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y ComisiwnLL+C

12Hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafurLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru ac undebau llafur perthnasol.

(2)Mae undeb llafur yn undeb llafur perthnasol at ddiben yr adran hon os yw’r Comisiwn yn ystyried bod cydlafurio rhyngddo a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn debygol o gynorthwyo i gyflawni dyletswyddau’r Comisiwn o dan adrannau 2 i 11, ac—

(a)y caiff ei gynrychioli gan y corff o’r enw Wales TUC Cymru, neu

(b)os na chaiff ei gynrychioli felly, fod y Comisiwn yn ystyried ei fod yn cynrychioli aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 5(3)) yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 12 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(k)

I3A. 12 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)