RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Dyletswyddau strategol y Comisiwn
12Hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur
(1)
Rhaid i’r Comisiwn hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru ac undebau llafur perthnasol.
(2)
Mae undeb llafur yn undeb llafur perthnasol at ddiben yr adran hon os yw’r Comisiwn yn ystyried bod cydlafurio rhyngddo a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn debygol o gynorthwyo i gyflawni dyletswyddau’r Comisiwn o dan adrannau 2 i 11, ac—
(a)
y caiff ei gynrychioli gan y corff o’r enw Wales TUC Cymru, neu
(b)
os na chaiff ei gynrychioli felly, fod y Comisiwn yn ystyried ei fod yn cynrychioli aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 5(3)) yng Nghymru.