RHAN 4PRENTISIAETHAU

Swyddogaethau’r Comisiwn

119Pŵer i ddyroddi tystysgrifau prentisiaethau

(1)

Caiff y Comisiwn ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif brentisiaeth”) mewn cysylltiad â pherson sy’n gwneud cais amdani, os yw’n ymddangos i’r Comisiwn fod y person wedi cwblhau prentisiaeth Gymreig gymeradwy.

(2)

Caiff y Comisiwn, yn dilyn cais, gyflenwi copi o dystysgrif brentisiaeth i berson y dyroddwyd y dystysgrif mewn cysylltiad ag ef.

(3)

Caiff y Comisiwn benderfynu—

(a)

y ffordd y mae rhaid i geisiadau am dystysgrifau neu am gopïau o dystysgrifau gael eu gwneud;

(b)

cynnwys tystysgrifau.

(4)

Ni chaiff y Comisiwn godi ffi am ddyroddi tystysgrif brentisiaeth neu am gyflenwi copi ohoni ond os yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn awdurdodi codi’r ffi, a dim ond i’r graddau y mae’r rheoliadau yn awdurdodi hynny.