RHAN 4PRENTISIAETHAU

Swyddogaethau’r Comisiwn

117Llunio a chyhoeddi fframweithiau prentisiaethau

(1)

Caiff y Comisiwn lunio fframweithiau prentisiaethau neu sicrhau eu bod yn cael eu llunio.

(2)

Caiff y Comisiwn gyhoeddi fframweithiau prentisiaethau sydd wedi eu llunio gan y Comisiwn ei hunan neu gan bersonau eraill (pa un a yw’r Comisiwn wedi sicrhau eu bod yn cael eu llunio ai peidio).

(3)

Rhaid i fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon gydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir o dan adran 115.

(4)

Caiff fframwaith prentisiaeth bennu gofynion ar lefelau cyrhaeddiad gwahanol ar gyfer yr un alwedigaeth neu grŵp o alwedigaethau, naill ai o fewn yr un fframwaith prentisiaeth neu mewn fframweithiau ar wahân.

(5)

Caiff fframwaith prentisiaeth gynnwys unrhyw ddeunydd sy’n berthnasol i brentisiaeth Gymreig gymeradwy yn yr alwedigaeth neu’r grŵp o alwedigaethau y mae’r fframwaith yn ymwneud â hi neu ag ef, neu sy’n berthnasol i brentisiaethau Cymreig cymeradwy yn gyffredinol.

(6)

Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau i gadw pob fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan adolygiad gyda golwg ar benderfynu a ddylai’r fframwaith gael ei ddiwygio neu ei dynnu’n ôl.

(7)

Caiff y Comisiwn—

(a)

cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o fframwaith prentisiaeth, neu

(b)

tynnu fframwaith prentisiaeth yn ôl (gan gyhoeddi fframwaith arall yn ei le neu heb gyhoeddi un arall).

(8)

Rhaid i fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon ddatgan y dyddiad y daw i rym.

(9)

Mae cyfeiriadau at fframwaith prentisiaeth yn yr adran hon yn cynnwys fframwaith diwygiedig.