RHAN 4PRENTISIAETHAU
Swyddogaethau Gweinidogion Cymru
116Ymgynghoriad gan Weinidogion Cymru ynghylch pennu
(1)
Cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—
(a)
â’r Comisiwn, a
(b)
ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)
Y camau gweithredu yw—
(a)
pennu gofyniad o dan adran 115 (gan gynnwys gofynion diwygiedig);
(b)
tynnu gofyniad yn ôl o dan adran 115.