Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

116Ymgynghoriad gan Weinidogion Cymru ynghylch pennuLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r Comisiwn, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Y camau gweithredu yw—

(a)pennu gofyniad o dan adran 115 (gan gynnwys gofynion diwygiedig);

(b)tynnu gofyniad yn ôl o dan adran 115.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 116 mewn grym ar 1.4.2026 gan O.S.C. 2026/62, ergl. 2(kk)