RHAN 4PRENTISIAETHAU
Swyddogaethau Gweinidogion Cymru
115Pennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru bennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy at ddibenion y Rhan hon.
(2)
Caiff gofyniad ymwneud â chynnwys fframweithiau prentisiaethau, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)—
(a)
pennu’r sectorau galwedigaethol y mae rhaid i’r alwedigaeth neu’r grŵp o alwedigaethau a gwmpesir gan fframwaith prentisiaeth ymwneud â hwy;
(b)
y safonau cyrhaeddiad cyffredinol sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy;
(c)
y math o gymwysterau sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy;
(d)
y math o hyfforddiant neu faint o hyfforddiant sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy.
(3)
Caiff gofyniad ymwneud â llunio, diwygio, tynnu’n ôl neu gyhoeddi fframwaith prentisiaeth, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)—
(a)
y ffordd y mae fframwaith prentisiaeth yn cael ei lunio, ei ddiwygio, ei dynnu’n ôl neu ei gyhoeddi;
(b)
y materion y mae rhaid eu hystyried wrth lunio fframwaith prentisiaeth, ei ddiwygio neu ei dynnu’n ôl.
(4)
Caiff gofyniad ymwneud â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy yn gyffredinol neu â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy mewn un neu ragor o alwedigaethau.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
diwygio gofyniad neu ei dynnu’n ôl drwy bennu gofyniad ymhellach;
(b)
tynnu gofyniad yn ôl drwy gyhoeddi hysbysiad o’i dynnu’n ôl.
(6)
Rhaid i ofyniad a bennir o dan yr adran hon (gan gynnwys diwygiad a phennu sy’n cynnwys tynnu’n ôl) gael ei gyhoeddi.
(7)
Rhaid i ofyniad a bennir o dan yr adran hon (gan gynnwys diwygiad) a thynnu gofyniad yn ôl (pa un ai drwy hysbysiad neu drwy bennu gofyniad ymhellach) ddatgan y dyddiad y daw i rym.