RHAN 4PRENTISIAETHAU

Rhagarweiniol

111Ystyr “prentisiaeth Gymreig gymeradwy”

(1)

Mae prentisiaeth Gymreig gymeradwy yn drefniant sy’n dod o fewn is-adrannau (2), (3) a (4).

(2)

Mae’r trefniant—

(a)

yn digwydd o dan gytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy, neu

(b)

yn brentisiaeth Gymreig amgen.

(3)

Mae’r gwaith a wneir yn rhinwedd y trefniant yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

(4)

Mae’r trefniant yn bodloni unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.