RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Cyfarwyddydau cymorth ariannol

110Cyfarwyddydau cymorth ariannol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cymorth ariannol i’r Comisiwn mewn perthynas â pherson perthnasol.

(2)

Ni chaniateir i gyfarwyddydau cymorth ariannol gael eu rhoi ond os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod materion ariannol y person perthnasol wedi cael eu camreoli neu’n cael eu camreoli.

(3)

“Cyfarwyddydau cymorth ariannol” yw unrhyw gyfarwyddydau ynghylch darparu neu sicrhau adnoddau ariannol o dan adran 88, 89, 97, 101, 103, 104 neu 105 i berson perthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus oherwydd y camreoli.

(4)

Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)

darparwr cofrestredig;

(b)

person (ac eithrio darparwr cofrestredig neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir) sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan adran 88(2), 89, 97, 101, 103, 104, neu 105(2).

(5)

Cyn rhoi cyfarwyddyd cymorth ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn a’r person perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)

ei bod yn angenrheidiol rhoi’r cyfarwyddyd cyn y byddai’n ymarferol ymgynghori â’r Comisiwn a’r person perthnasol, neu

(b)

y byddai’r ymgynghori yn tanseilio diben rhoi’r cyfarwyddyd.

(6)

Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd cymorth ariannol, rhaid iddynt—

(a)

cyhoeddi’r cyfarwyddyd,

(b)

adrodd i Senedd Cymru fod cyfarwyddyd wedi ei roi a gosod copi o’r cyfarwyddyd gerbron y Senedd, ac

(c)

cadw’r cyfarwyddyd o dan adolygiad.

(7)

Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd cymorth ariannol a roddir o dan yr adran hon.