Rhaid i’r Comisiwn hybu—
(a)cyfleoedd mewn addysg drydyddol i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru i astudio neu addysgu mewn mannau eraill yn y byd;
(b)cyfleoedd i astudio neu addysgu mewn addysg drydyddol yng Nghymru ar gyfer personau sy’n preswylio fel arfer y tu allan i Gymru;
(c)cyfleoedd i’r buddiannau a geir yn sgil astudio ac addysgu o’r math a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) gael eu defnyddio ar gyfer llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru;
(d)cydlafurio mewn addysg drydyddol rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru a’r rheini mewn mannau eraill yn y byd;
(e)cyfleoedd i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i wneud gwaith ymchwil ac arloesi mewn mannau eraill yn y byd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 11 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(j)
I3A. 11 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)