RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Dyletswyddau strategol y Comisiwn
11Hybu golwg fyd-eang
Rhaid i’r Comisiwn hybu—
(a)
cyfleoedd mewn addysg drydyddol i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru i astudio neu addysgu mewn mannau eraill yn y byd;
(b)
cyfleoedd i astudio neu addysgu mewn addysg drydyddol yng Nghymru ar gyfer personau sy’n preswylio fel arfer y tu allan i Gymru;
(c)
cyfleoedd i’r buddiannau a geir yn sgil astudio ac addysgu o’r math a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) gael eu defnyddio ar gyfer llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru;
(d)
cydlafurio mewn addysg drydyddol rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru a’r rheini mewn mannau eraill yn y byd;
(e)
cyfleoedd i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i wneud gwaith ymchwil ac arloesi mewn mannau eraill yn y byd.