Rhagolygol
108Cymorth ariannol o dan adrannau 89, 97 a 104: darpariaeth bellach ynghylch telerau ac amodauLL+C
(1)Wrth benderfynu’r telerau a’r amodau i’w gosod mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 89(3), 97(1)(a) neu (b) neu 104(1)(a) i ddarparwr nad yw’n ddarparwr cofrestredig, rhaid i’r Comisiwn ystyried pa un ai i osod telerac ac amodau sy’n ymwneud—
(a)ag ansawdd yr addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;
(b)ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);
(c)â chynaliadwyedd ariannol y darparwr;
(d)ag effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;
(e)â chyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).
(2)Y nodau yw—
(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;
(b)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;
(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn y telerau a’r amodau pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;
(d)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.
(3)Yn yr adran hon—
ystyr “addysg berthnasol” (“relevant education”) yw—
(a)pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 89(3)(a) neu (b), y cwrs cymwys (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 89(1)) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad ag ef;
(b)pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 97(1)(a) neu (b), yr addysg bellach neu’r hyfforddiant y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi neu ag ef;
(c)pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 104(1)(a), y brentisiaeth Gymreig gymeradwy (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 111) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi;
“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau a bennir yn y telerau a’r amodau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg berthnasol o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)