RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Telerau ac amodau: ansawdd, llywodraethu etc., lles a chyfle cyfartal

I1108Cymorth ariannol o dan adrannau 89, 97 a 104: darpariaeth bellach ynghylch telerau ac amodau

1

Wrth benderfynu’r telerau a’r amodau i’w gosod mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 89(3), 97(1)(a) neu (b) neu 104(1)(a) i ddarparwr nad yw’n ddarparwr cofrestredig, rhaid i’r Comisiwn ystyried pa un ai i osod telerac ac amodau sy’n ymwneud—

a

ag ansawdd yr addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

b

ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);

c

â chynaliadwyedd ariannol y darparwr;

d

ag effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;

e

â chyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).

2

Y nodau yw—

a

cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

b

cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

c

lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn y telerau a’r amodau pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

d

darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

3

Yn yr adran hon—

  • ystyr “addysg berthnasol” (“relevant education”) yw—

    1. a

      pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 89(3)(a) neu (b), y cwrs cymwys (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 89(1)) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad ag ef;

    2. b

      pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 97(1)(a) neu (b), yr addysg bellach neu’r hyfforddiant y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi neu ag ef;

    3. c

      pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 104(1)(a), y brentisiaeth Gymreig gymeradwy (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 111) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi;

  • grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau a bennir yn y telerau a’r amodau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg berthnasol o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.