RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Addysg bellach a hyfforddiant

102Personau ag anghenion dysgu ychwanegol

(1)

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a nodir yn is-adran (2), rhaid i’r Comisiwn roi sylw—

(a)

i anghenion personau ag anghenion dysgu ychwanegol;

(b)

i ddymunoldeb bod cyfleusterau ar gael a fyddai’n cynorthwyo i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2).

(2)

Y darpariaethau yw—

(a)

adran 93 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed);

(b)

adran 94 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed);

(c)

adran 95 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau dros 19 oed);

(d)

adran 97(1)(a) i (e) a (7) (cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant);

(e)

adran 103(1) (cymorth ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth, cyngor, canllawiau ac i greu cysylltiadau â chyflogwyr);

(f)

adran 103(2) (cymorth ariannol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg) ac eithrio i’r graddau y mae darparu addysg drydyddol a’r addysgu y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno yn cynnwys addysg uwch.