RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Addysg bellach a hyfforddiant

101Y chweched dosbarth mewn ysgolion

(1)

Caiff y Comisiwn roi grant i awdurdod lleol—

(a)

ar yr amod bod y grant yn cael ei gymhwyso fel rhan o gyllideb ysgolion yr awdurdod am gyfnod cyllido, a

(b)

gyda golwg ar y grant yn cael ei ddefnyddio at ddibenion darparu addysg gan ysgolion sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â darparu addysg o’r fath.

(2)

Caniateir i grant a wneir o dan yr adran hon gael ei roi ar delerau ac amodau yn ychwanegol at yr amod a grybwyllir yn is-adran (1)(a) (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan adran 99(2)).

(3)

Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3).

(4)

Rhaid i’r canlynol roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai yn benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon—

(a)

awdurdod lleol sy’n cael grant o dan yr adran hon, a

(b)

corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol.

(5)

Yn yr adran hon—

ystyr “cyfnod cyllido” (“funding period”) yw blwyddyn ariannol neu, os yw rhyw gyfnod arall wedi ei ragnodi o ran Cymru o dan is-adran (1B) o adran 45 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (ysgolion a gynhelir i gael cyfrannau cyllideb), y cyfnod arall hwnnw;

mae i “cyllideb ysgolion” yr un ystyr â “schools budget” yn adran 45A(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (penderfynu cyllidebau penodedig awdurdod lleol).