xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
4Mae’r Rhan hon yn gymwys os oes corff a ddynodir o dan yr Atodlen hon i arfer y swyddogaethau asesu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
5Caiff y Comisiwn ddarparu cyllid i’r corff dynodedig er mwyn arfer y swyddogaethau asesu.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
6Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau er mwyn dwyn y corff dynodedig i gyfrif am arfer y swyddogaethau asesu.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
7(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd blynyddol, rhaid i’r corff dynodedig lunio adroddiad am arfer y swyddogaethau asesu yn ystod y cyfnod a’i anfon i’r Comisiwn.
(2)Ystyr “cyfnod adrodd blynyddol”, mewn perthynas â chorff dynodedig, yw—
(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad effeithiol, a
(b)pob cyfnod dilynol o 12 mis.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
8(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddydau cyffredinol i’r corff dynodedig ynghylch arfer y swyddogaethau asesu.
(2)Wrth roi’r cyfarwyddydau hynny, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r angen i ddiogelu—
(a)arbenigedd y corff dynodedig, a
(b)gallu’r corff dynodedig i wneud, neu i wneud trefniadau ar gyfer gwneud, asesiad diduedd o ansawdd yr addysg uwch a ddarperir gan ddarparwr addysg drydyddol.
(3)Rhaid i’r cyfarwyddydau ymwneud—
(a)â darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch neu ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyffredinol, neu
(b)â disgrifiad o’r darparwyr hynny.
(4)Rhaid i’r corff dynodedig gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
9Rhaid i’r Comisiwn roi gwybod i Weinidogion Cymru os oes ganddo bryderon sylweddol ynghylch—
(a)sut y mae’r corff dynodedig yn arfer y swyddogaethau asesu, neu
(b)addasrwydd parhaus y corff dynodedig i arfer y swyddogaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)