xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1(1)Caiff y Comisiwn ddynodi corff i arfer ei swyddogaethau asesu.
(2)Ni chaiff y Comisiwn ddynodi corff o dan is-baragraff (1) ond os yw’n ystyried—
(a)bod y corff yn addas i arfer y swyddogaethau asesu, a
(b)y byddai dynodi’r corff yn briodol er mwyn sicrhau bod ansawdd addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn cael ei asesu’n effeithiol.
(3)Cyn dynodi corff, rhaid i’r Comisiwn—
(a)cael cydsyniad Gweinidogion Cymru, a
(b)ymgynghori—
(i)â phob darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch, a
(ii)ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(4)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu dynodi corff o dan is-baragraff (1), rhaid iddo—
(a)hysbysu’r corff am y dynodiad cyn y dyddiad y mae’r dynodiad yn cymryd effaith (“y dyddiad effeithiol”), a
(b)cyhoeddi hysbysiad o’r dynodiad cyn y dyddiad hwnnw.
(5)Rhaid i’r hysbysiad o’r dynodiad ddatgan—
(a)enw’r corff, a
(b)y dyddiad effeithiol.
(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad o dan is-baragraff (3)(a), rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau dros beidio â gwneud hynny.
2(1)Mae corff yn addas i arfer y swyddogaethau asesu os yw’r corff yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (2).
(2)Yr amodau yw—
(a)bod y corff yn gallu arfer y swyddogaethau asesu mewn modd effeithiol,
(b)bod y personau sy’n penderfynu blaenoriaethau strategol y corff yn cynrychioli ystod eang o ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch,
(c)bod gan ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch ffydd yn y corff,
(d)bod y corff yn arfer ei swyddogaethau yn annibynnol ar unrhyw ddarparwr addysg uwch penodol, ac
(e)bod y corff yn cydsynio i gael ei ddynodi o dan yr Atodlen hon.
3(1)Caiff y Comisiwn drwy hysbysiad ddileu dynodiad o dan yr Atodlen hon.
(2)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)cynnwys y rhesymau dros benderfyniad y Comisiwn, a
(b)pennu’r dyddiad y caiff y dynodiad ei ddileu.
(3)Ni chaiff y Comisiwn ddileu dynodiad ond—
(a)os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni y byddai dileu’r dynodiad yn briodol er mwyn sicrhau bod ansawdd addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn cael ei asesu’n effeithiol, neu
(b)os yw’r corff dynodedig yn cydsynio i’r dynodiad gael ei ddileu.
(4)Oni bai bod is-baragraff (3)(b) yn gymwys, rhaid i’r Comisiwn, cyn dileu’r dynodiad—
(a)cael cydsyniad Gweinidogion Cymru, a
(b)ymgynghori—
(i)â phob darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch, ac
(ii)ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad o dan y paragraff hwn.
(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad o dan is-baragraff (4)(a), rhaid iddynt gyhoeddi’r rhesymau dros beidio â gwneud hynny.