xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 24)

ATODLEN 2LL+CTROSGLWYDDO EIDDO A STAFF I’R COMISIWN

Pŵer i wneud cynlluniau trosglwyddoLL+C

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o gynlluniau sy’n darparu—

(a)i staff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu staff Llywodraeth Cymru ddod yn aelodau o staff y Comisiwn;

(b)ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau ac atebolrwyddau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu Weinidogion Cymru i’r Comisiwn.

(2)Mae’r pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun o dan yr Atodlen hon (“cynllun trosglwyddo”) yn cynnwys—

(a)eiddo, hawliau ac atebolrwyddau na ellid eu trosglwyddo fel arall;

(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau ac atebolrwyddau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud;

(c)atebolrwyddau troseddol.

(3)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth ddarfodol, er enghraifft er mwyn—

(a)creu hawliau, neu osod atebolrwyddau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth eiddo neu ddefnydd ohono;

(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Llywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru mewn offeryn neu ddogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir gael eu trin fel pe baent yn gyfeiriadau at y Comisiwn;

(f)gwneud darpariaeth sydd yr un fath â darpariaeth a wneir gan y rheoliadau TUPE, neu sy’n debyg iddi, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(w)

Addasu cynlluniau trosglwyddoLL+C

2(1)Caiff Gweinidogion Cymru addasu cynllun trosglwyddo.

(2)Ond os yw trosglwyddiad o dan y cynllun wedi cymryd effaith, ni chaiff unrhyw addasiad sy’n ymwneud â’r trosglwyddiad gael ei wneud ond gyda chytundeb y person (neu’r personau) y mae’r addasiad yn effeithio arno (neu arnynt).

(3)Mae addasiad yn cymryd effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun gwreiddiol yn effeithiol neu unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(w)

Dyletswydd i osod cynlluniau trosglwyddo gerbron Senedd CymruLL+C

3Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o gynllun trosglwyddo a wneir o dan yr Atodlen hon gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(w)

DehongliLL+C

4(1)At ddibenion yr Atodlen hon—

(a)mae unigolyn sydd â chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi yn rhinwedd contract cyflogaeth, a

(b)mae telerau cyflogaeth yr unigolyn yn y gwasanaeth sifil i’w hystyried fel pe baent yn ffurfio telerau’r contract cyflogaeth.

(2)Yn yr Atodlen hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(w)