ATODLEN 2TROSGLWYDDO EIDDO A STAFF I’R COMISIWN
I4I51Pŵer i wneud cynlluniau trosglwyddo
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o gynlluniau sy’n darparu—
a
i staff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu staff Llywodraeth Cymru ddod yn aelodau o staff y Comisiwn;
b
ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau ac atebolrwyddau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu Weinidogion Cymru i’r Comisiwn.
2
Mae’r pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun o dan yr Atodlen hon (“cynllun trosglwyddo”) yn cynnwys—
a
eiddo, hawliau ac atebolrwyddau na ellid eu trosglwyddo fel arall;
b
eiddo a gaffaelir, a hawliau ac atebolrwyddau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud;
c
atebolrwyddau troseddol.
3
Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth ddarfodol, er enghraifft er mwyn—
a
creu hawliau, neu osod atebolrwyddau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;
b
gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
c
gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
d
gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth eiddo neu ddefnydd ohono;
e
gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Llywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru mewn offeryn neu ddogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir gael eu trin fel pe baent yn gyfeiriadau at y Comisiwn;
f
gwneud darpariaeth sydd yr un fath â darpariaeth a wneir gan y rheoliadau TUPE, neu sy’n debyg iddi, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.
I2I62Addasu cynlluniau trosglwyddo
1
Caiff Gweinidogion Cymru addasu cynllun trosglwyddo.
2
Ond os yw trosglwyddiad o dan y cynllun wedi cymryd effaith, ni chaiff unrhyw addasiad sy’n ymwneud â’r trosglwyddiad gael ei wneud ond gyda chytundeb y person (neu’r personau) y mae’r addasiad yn effeithio arno (neu arnynt).
3
Mae addasiad yn cymryd effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun gwreiddiol yn effeithiol neu unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir gan Weinidogion Cymru.
I1I73Dyletswydd i osod cynlluniau trosglwyddo gerbron Senedd Cymru
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o gynllun trosglwyddo a wneir o dan yr Atodlen hon gerbron Senedd Cymru.
I3I84Dehongli
1
At ddibenion yr Atodlen hon—
a
mae unigolyn sydd â chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi yn rhinwedd contract cyflogaeth, a
b
mae telerau cyflogaeth yr unigolyn yn y gwasanaeth sifil i’w hystyried fel pe baent yn ffurfio telerau’r contract cyflogaeth.
2
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “gwasanaeth sifil” (“civil service”) yw gwasanaeth sifil y Wladwriaeth;
ystyr “rheoliadau TUPE” (“TUPE regulations”) yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246);
mae cyfeiriadau at hawliau ac atebolrwyddau yn cynnwys hawliau ac atebolrwyddau sy’n ymwneud â chontract cyflogaeth;
mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys rhoi les.