Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

AelodaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Aelodau’r Comisiwn yw—

(a)y person a benodir gan Weinidogion Cymru i gadeirio’r Comisiwn (“y cadeirydd”);

(b)y person a benodir gan Weinidogion Cymru yn gadeirydd y PYA o dan baragraff 12(1) sydd i fod yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn;

(c)o leiaf 4 a dim mwy na 14 o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn (“aelodau arferol”);

(d)y person a benodir o dan baragraff 10 yn brif weithredwr y Comisiwn (“y prif weithredwr”).

(2)Wrth benodi’r cadeirydd a’r aelodau arferol rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb sicrhau bod gan aelodau’r Comisiwn (rhyngddynt) brofiad o’r canlynol, a’u bod wedi dangos gallu o ran y canlynol—

(a)darparu addysg neu hyfforddiant;

(b)gwneud neu weinyddu ymchwil;

(c)materion diwydiannol, masnachol neu ariannol neu arfer unrhyw broffesiwn;

(d)hybu anghenion dysgwyr mewn addysg drydyddol.

(e)darparu addysg neu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg neu hybu addysg neu hyfforddiant o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 15.12.2022 gan O.S. 2022/1318, ergl. 2(c)(i)