xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
(1)Mae prentisiaeth Gymreig gymeradwy yn drefniant sy’n dod o fewn is-adrannau (2), (3) a (4).
(2)Mae’r trefniant—
(a)yn digwydd o dan gytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy, neu
(b)yn brentisiaeth Gymreig amgen.
(3)Mae’r gwaith a wneir yn rhinwedd y trefniant yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
(4)Mae’r trefniant yn bodloni unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
(1)Mae cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy yn gytundeb—
(a)sy’n darparu i berson (“y prentis”) weithio i berson arall am gydnabyddiaeth mewn galwedigaeth y mae fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan adran 117 mewn grym ar ei chyfer ar yr adeg y gwneir y cytundeb,
(b)sy’n darparu i’r prentis gael hyfforddiant er mwyn cynorthwyo’r prentis i fodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith prentisiaeth, ac
(c)sy’n bodloni unrhyw amodau eraill a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
(1)Mae prentisiaeth Gymreig amgen yn drefniant, y mae person yn gweithio odano, sydd o fath a ddisgrifir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddisgrifio trefniadau sy’n ymwneud ag achosion pan fo person—
(a)yn gweithio ac eithrio i berson arall;
(b)yn gweithio ac eithrio am gydnabyddiaeth.
(3)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
(1)Mae fframwaith prentisiaeth yn ddogfen sy’n pennu gofynion ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy mewn galwedigaeth neu grŵp o alwedigaethau, a all gynnwys (ond nad ydynt yn gyfyngedig i) gofynion sy’n ymwneud—
(a)â safonau cyrhaeddiad;
(b)â chymwysterau;
(c)â’r math o hyfforddiant neu faint o hyfforddiant yr ymgymerir ag ef.
(2)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)