RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 3DARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH
Ymyrryd yn ymddygiad sefydliadau addysg bellach
I269Y seiliau dros ymyrryd
At ddibenion adrannau 70 a 71, y seiliau dros ymyrryd yn ymddygiad darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach yw fel a ganlyn—
a
mae materion y darparwr wedi cael neu yn cael eu camreoli gan ei gorff llywodraethu;
b
mae corff llywodraethu’r darparwr wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd o dan unrhyw ddeddfiad;
c
mae corff llywodraethu’r darparwr wedi gweithredu neu’n bwriadu gweithredu’n afresymol wrth arfer ei swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad;
d
mae’r darparwr yn perfformio’n sylweddol waeth nag y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo berfformio o dan yr holl amgylchiadau, neu yn methu neu’n debygol o fethu â rhoi safon dderbyniol o addysg neu hyfforddiant.
I370Pwerau i ymyrryd
1
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r darparwr.
2
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
3
Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon—
a
cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i ddiswyddo pob un neu unrhyw un neu ragor o aelodau corff llywodraethu’r darparwr;
b
cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i benodi aelodau newydd o’r corff hwnnw os oes swyddi gwag (sut bynnag y maent wedi codi);
c
pennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.
4
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) (ymhlith pethau eraill) ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—
a
arfer pwerau o dan adran 5(2)(b) i (f) ac (h) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7) i gydlafurio â’r personau hynny ac ar y telerau hynny a bennir yn y cyfarwyddyd;
b
pasio penderfyniad o dan adran 27A(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13) (“Deddf 1992”) i’r corff gael ei ddiddymu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
5
Cymerir at ddibenion adran 27A(1) o Ddeddf 1992 fod corff llywodraethu, y mae cyfarwyddyd fel y’i crybwyllir yn is-adran (4)(b) wedi ei roi iddo, wedi cydymffurfio ag adran 27 o’r Ddeddf honno cyn pasio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd.
6
Caniateir i gyfarwyddydau gael eu rhoi o dan yr adran hon er gwaethaf unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud arfer pŵer neu gyflawni dyletswydd yn ddibynnol ar farn corff llywodraethu.
7
Ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff llywodraethu o dan yr adran hon i ddiswyddo aelod o staff.
8
Ond nid yw is-adran (7) yn atal Gweinidogion Cymru, pan fônt yn ystyried y gall fod yn briodol diswyddo aelod o staff y mae gan y corff llywodraethu bŵer i’w ddiswyddo o dan erthyglau llywodraethu’r darparwr, rhag rhoi unrhyw gyfarwyddydau i’r corff llywodraethu o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y rhoddir effaith i’r gweithdrefnau sy’n gymwys i ystyried yr achos dros ddiswyddo’r aelod hwnnw o staff mewn perthynas â’r aelod hwnnw o staff.
9
Mae penodi aelod o gorff llywodraethu o dan yr adran hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r darparwr o dan sylw.
I871Hysbysu gan y Comisiwn am y seiliau dros ymyrryd
1
Os yw’r Comisiwn o’r farn bod unrhyw un neu ragor o’r seiliau dros ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach, rhaid i’r Comisiwn hysbysu Gweinidogion Cymru am y farn honno.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i farn y Comisiwn wrth benderfynu pa un ai i arfer y pwerau o dan adran 70.
I572Datganiad Gweinidogion Cymru ar bwerau ymyrryd
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y maent yn bwriadu arfer eu pwerau o dan adran 70
2
O ran Gweinidogion Cymru—
a
rhaid iddynt gadw’r datganiad o dan adolygiad;
b
cânt ddiwygio’r datganiad.
3
Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
4
Cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi ohono gerbron Senedd Cymru.
Mynediad i wybodaeth a chyfleusterau
I1273Dyletswydd i gydweithredu
1
Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51, 53 neu 54(1) unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr allanol sy’n rhesymol ofynnol gan y person at ddiben arfer y swyddogaeth (gan gynnwys at ddiben arfer unrhyw bŵer o dan adran 74).
2
Rhaid i gorff llywodraethu darparwr addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir o dan adran 97 sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51 neu 53 unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr sy’n rhesymol ofynnol gan y person at ddiben arfer y swyddogaeth (gan gynnwys at ddiben arfer unrhyw bŵer o dan adran 74).
3
Yn is-adran (2)—
ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw’r person sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;
nid yw “darparwr addysg bellach neu hyfforddiant” (“provider of further education or training”) yn cynnwys darparwr cofrestredig.
4
Os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at ddiben sicrhau y darperir gwybodaeth, cynhorthwy neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).
5
Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddyd o dan is-adran (4), gweler adrannau 75 i 78.
I974Pwerau mynd i mewn ac arolygu
1
At ddiben arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 36, 38, 51, 53 neu 54(1), caiff person awdurdodedig—
a
mynd i fangre darparwr cofrestredig;
b
edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
2
At ddiben arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51, 53 neu 54(1), caiff person awdurdodedig—
a
mynd i fangre darparwr allanol;
b
edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
3
Yn is-adrannau (1)(b) a (2)(b), mae cyfeiriadau—
a
at ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
b
at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
i
dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
ii
dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
4
Mae’r pŵer a roddir gan is-adrannau (1)(b) a (2)(b) yn cynnwys pŵer—
a
i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;
b
i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
c
i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.
5
Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon gael ei arfer ond ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—
a
i gorff llywodraethu’r darparwr cofrestredig neu’r darparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a
b
i gorff llywodraethu unrhyw ddarparwr cofrestredig y mae’r darparwr hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg drydyddol y mae arfer y swyddogaeth berthnasol a grybwyllir yn is-adran (1) neu (2) yn ymwneud â hi.
6
Nid yw is-adran (5) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—
a
bod yr achos yn achos brys, neu
b
y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio diben arfer y pŵer.
7
Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Comisiwn (pa un ai’n gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.
8
Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (7).
9
O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—
a
caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;
b
ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg resymol.
10
Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i annedd heb gytundeb y meddiannydd.
11
Yn yr adran hon, ystyr “mangre” yw mangre yng Nghymru neu Loegr.
Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu
I1375Cymhwyso adrannau 76 i 78
1
Mae adrannau 76 i 78 yn gymwys—
a
i gyfarwyddyd o dan adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);
b
i hysbysiad o dan adran 47(2)(b) (gwrthod y datganiad terfyn ffioedd arfaethedig);
c
i hysbysiad o dan adran 47(4)(b) (gwrthod yr amrywiad arfaethedig i ddatganiad terfyn ffioedd neu’r datganiad arfaethedig arall yn ei le);
d
i gyfarwyddyd o dan adran 73(4) (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydweithredu).
2
Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach.
I176Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio
1
Cyn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i’r Comisiwn roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.
2
Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—
a
nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig,
b
datgan y rhesymau dros fwriadu ei roi,
c
pennu’r cyfnod pan gaiff y corff llywodraethu gyflwyno sylwadau ynghylch yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig (“y cyfnod penodedig”), a
d
pennu’r ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.
3
Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.
4
Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
5
Ar ôl penderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i’r Comisiwn hysbysu’r corff llywodraethu am ei benderfyniad.
I1477Yr wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau a’r effaith tra bo adolygiad yn yr arfaeth
1
Os yw’r Comisiwn yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd bennu’r dyddiad y mae’n cymryd effaith.
2
Rhaid i’r Comisiwn, ar yr un pryd ag y mae’n rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, roi i’r corff llywodraethu ddatganiad sy’n pennu—
a
y rhesymau dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,
b
gwybodaeth o ran yr hawl i gael adolygiad, ac
c
y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 79(4)(c) y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud ynddo.
3
Ni chaniateir i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo gymryd effaith ar unrhyw adeg—
a
pan allai cais am adolygiad o dan adran 78 gael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, neu
b
pan fo adolygiad neu benderfyniad gan y Comisiwn yn dilyn adolygiad o’r fath yn yr arfaeth.
4
Ond nid yw hynny yn atal hysbysiad neu gyfarwyddyd rhag cymryd effaith os yw’r corff llywodraethu yn hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gwneud cais am adolygiad.
5
Pan fo is-adran (3) yn peidio ag atal hysbysiad neu gyfarwyddyd rhag cymryd effaith ar y dyddiad a bennir o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn benderfynu dyddiad yn y dyfodol y mae’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd yn cymryd effaith.
6
Ond mae hynny yn ddarostyngedig i’r hyn sydd wedi cael ei benderfynu gan y Comisiwn yn dilyn unrhyw adolygiad o dan adran 78 mewn cysylltiad â’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
I1078Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau
Os yw’r Comisiwn yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd gan yr adolygydd penderfyniadau.
I1179Adolygydd penderfyniadau
1
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person, neu banel o bersonau, i adolygu penderfyniadau o dan adrannau 45 ac 78.
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan is-adran (1).
3
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau gan yr adolygydd penderfyniadau o dan adrannau 45 ac 78.
4
Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—
a
ynghylch y seiliau y caniateir i’r adolygydd penderfyniadau wneud argymhellion i’r Comisiwn arnynt;
b
ynghylch y mathau o argymhellion y caniateir iddynt gael eu gwneud gan yr adolygydd penderfyniadau i’r Comisiwn;
c
ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo, a’r ffordd y mae rhaid gwneud hynny;
d
ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan yr adolygydd penderfyniadau;
e
ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru yn dilyn adolygiad.
5
Yn y Rhan hon, ystyr “yr adolygydd penderfyniadau” yw’r person neu’r panel o bersonau a benodir o dan is-adran (1).
Dyletswyddau amrywiol
I680Dyletswydd i fonitro cynaliadwyedd ariannol ac adrodd arno
1
Rhaid i’r Comisiwn fonitro cynaliadwyedd ariannol—
a
darparwyr cofrestredig;
b
darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru—
i
sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg bellach,
ii
a gyllidir gan y Comisiwn o dan adran 97, a
iii
nad ydynt yn ddarparwyr cofrestredig;
c
darparwyr addysg drydyddol eraill o fath a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer eithriadau i is-adran (1)(a) a (b).
3
Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol wybodaeth am sefyllfa ariannol y personau sydd wedi eu monitro o dan is-adran (1) ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad blynyddol yn ymwneud â hi.
4
Ar yr un pryd ag y mae’r Comisiwn yn anfon ei adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru, rhaid i’r Comisiwn anfon adroddiad ar wahân at Weinidogion Cymru sy’n cynnwys crynodeb o’r rhagolwg ariannol ar gyfer y personau sydd wedi eu monitro o dan is-adran (1) am y blynyddoedd ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad blynyddol yn ymwneud â hi.
5
“Crynodeb o’r rhagolwg ariannol” yw crynodeb o gasgliadau y mae’r Comisiwn wedi dod iddynt, o’i fonitro o dan is-adran (1), ynghylch patrymau perthnasol, tueddiadau perthnasol neu faterion perthnasol eraill y mae wedi eu nodi.
6
Mae patrymau, tueddiadau neu faterion eraill yn “perthnasol”—
a
os ydynt yn ymwneud â chynaliadwyedd ariannol rhai o’r personau neu’r holl bersonau sydd wedi eu monitro o dan is-adran (1), a
b
os yw’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol i’w dwyn i sylw Gweinidogion Cymru.
7
Yn yr adran hon—
ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw’r adroddiad blynyddol o dan baragraff 16 o Atodlen 1;
mae i “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yr un ystyr ag yn yr Atodlen honno (gweler paragraff 17).
I481Datganiad y Comisiwn ar swyddogaethau ymyrryd
1
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.
2
O ran y Comisiwn—
a
rhaid iddo gadw’r datganiad o dan adolygiad;
b
caiff ddiwygio’r datganiad.
3
Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori—
a
â chorff llywodraethu pob darparwr cofrestredig, a
b
ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
4
Swyddogaethau ymyrryd y Comisiwn yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn—
a
adran 36 (dyletswydd i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);
b
adran 37 (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);
c
adran 38 (adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau);
d
adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);
e
adran 41 (datgofrestru);
f
adran 51 (dyletswydd i fonitro ansawdd addysg drydyddol reoleiddiedig ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno);
g
adran 52 (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol);
h
adran 53 (adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol);
i
adran 73(4) (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â dyletswydd i gydweithredu).
Cyfarwyddydau
I782Effaith cyfarwyddydau a’u gorfodi
1
Os yw’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
2
Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan y person a roddodd y cyfarwyddyd.
3
Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r person a roddodd y cyfarwyddyd roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw’r person wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).
4
Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Rhan hon fod yn ysgrifenedig.