RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Monitro a gorfodi amodau cofrestru

I4I636Dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus

Rhaid i’r Comisiwn fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus gan ddarparwyr cofrestredig.

I537Cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus

Caiff y Comisiwn ddarparu, neu wneud trefniadau ar gyfer darparu, cyngor neu gynhorthwy arall i ddarparwr cofrestredig at ddiben sicrhau cydymffurfedd gan y darparwr â’i amodau cofrestru parhaus.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I138Adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus

Caiff y Comisiwn gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd gan ddarparwr cofrestredig â’i amodau cofrestru parhaus.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I339Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus

1

Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod cofrestru parhaus.

2

Yn achos methiant, neu fethiant tebygol, i gydymffurfio ag amod cofrestru parhaus, caiff y Comisiwn gyfarwyddo’r corff llywodraethu i gydymffurfio â’r amod.

3

Yn achos methiant i gydymffurfio ag amod terfyn ffioedd, caiff y Comisiwn hefyd, fel dewis arall i gyfarwyddyd a ddisgrifir yn is-adran (2), neu’n ychwanegol ato, gyfarwyddo’r corff llywodraethu i ad-dalu ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r darparwr addysg drydyddol.

4

Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben cydymffurfio â’r amod.

5

Caiff cyfarwyddyd o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3) bennu’r modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y caniateir iddo gael ei roi ar waith.

6

Os yw’r Comisiwn yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

a

rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

b

cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

7

Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 32 y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

8

Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 75 i 78.

Annotations:
Commencement Information
I3

A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I240Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau o dan adran 39

1

Caiff y Comisiwn ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at ddiben cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 39.

2

Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â chorff llywodraethu pob darparwr cofrestredig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw ddarparwr addysg drydyddol arall yng Nghymru y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.