9Cyflwyniad a dehongliLL+C
(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio a mabwysiadu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—
(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;
(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at ysgol yn gyfeiriadau—
(a)at ysgol a gynhelir, neu
(b)at ysgol feithrin a gynhelir.
(3)Yn y Bennod hon—
(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;
(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);
(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I3A. 9 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
I4A. 9 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)
I5A. 9 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)
