RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM
Cyffredinol
9Cyflwyniad a dehongli
(1)
Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio a mabwysiadu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—
(a)
disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)
disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;
(c)
plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
(2)
Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at ysgol yn gyfeiriadau—
(a)
at ysgol a gynhelir, neu
(b)
at ysgol feithrin a gynhelir.
(3)
Yn y Bennod hon—
(a)
mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)
mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;
(c)
mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);
(d)
mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).