Mae’r Tabl isod yn rhestru darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n diffinio neu fel arall yn esbonio ymadroddion a ddefnyddir yn y Ddeddf hon.
| Ymadrodd | Darpariaeth berthnasol |
|---|---|
| addasu (“modify”) | adran 82(1) |
| addysg feithrin (“nursery education”) | adran 80(1)(b) |
| addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“funded non-maintained nursery education”) | adran 80(1)(a) |
| awdurdod lleol (“local authority”) (mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion) | adran 81(2)(a) |
| awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“local authority that secures funded non-maintained nursery education”) | adran 80(2)(b) |
| blwyddyn ysgol berthnasol (“relevant school year”) | adran 31(5) |
| Cod ACRh (“RSE Code”) | adran 8(1) |
| Cod Cynnydd (“Progression Code”) | adran 7(1) |
| Cod yr Hyn sy’n Bwysig (“What Matters Code”) | adran 6(1) |
| cwmpasu (“encompass”) | |
| (mewn perthynas â maes dysgu a phrofiad) | adran 6(2) a (3) |
| (mewn perthynas ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb) | adran 8(2) a (3) |
| cwricwlwm adran 13 (“section 13 curriculum”) | adran 13(1) |
| cwricwlwm mabwysiedig (“adopted curriculum”) | |
| (ym Mhennod 1 o Ran 2) | adran 9(3) |
| (ym Mhenodau 3 a 4 o Ran 2) | adran 26(4) |
| cwricwlwm perthnasol (“relevant curriculum”) (yn Rhan 4) | adran 56(5) |
| cwrs astudio (“course of study”) | adrannau 25(5) a 68(2) |
| cynnydd priodol (“appropriate progression”) | adran 7(2) a (3) |
| darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“provider of funded non-maintained nursery education”) | adran 80(2)(a) |
| dosbarth (“class”) | adran 82(1) |
| elfen fandadol (“mandatory element”) | adran 3(2) |
| maes dysgu a phrofiad (“area of learning and experience”) | adran 3(1) |
| pedwar diben (“four purposes”) | adran 2(1) |
| person perthnasol (“relevant person”) (yn Rhan 4) | adran 56(4) |
| pwyllgor rheoli (“management committee”) (mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion) | adran 81(2)(b) |
| rheoliadau (“regulations”) | adran 82(1) |
| sgìl trawsgwricwlaidd mandadol (“mandatory cross-curricular skill”) | adran 4(1) |
| trefniadau asesu (“assessment arrangements”) (yn Rhan 4) | adran 56(2) |
| uned cyfeirio disgyblion (“pupil referral unit”) | adran 81(1) |
| ysgol (“school”) | |
| (ym Mhennod 1 o Ran 2) | adran 9(2) |
| (ym Mhenodau 3 a 4 o Ran 2) | adran 26(3) |
| ysgol a gynhelir (“maintained school”) | |
| (yn gyffredinol) | adran 79(1)(a) |
| (yn Rhan 5) | adran 58(2)(a) |
| ysgol arbennig gymunedol (“community special school”) | adran 79(2) |
| ysgol feithrin a gynhelir (“maintained nursery school”) | adran 79(1)(b) |
| ysgol gymunedol (“community school”) | adran 79(2) |
| ysgol sefydledig (“foundation school”) | adran 79(2) |
| ysgol wirfoddol (“voluntary school”) | adran 79(2) |
| ysgol wirfoddol a gynorthwyir (“voluntary aided school”) | adran 79(2) |
| ysgol wirfoddol a reolir (“voluntary controlled school”) | adran 79(2) |
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 83 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)