RHAN 7CYFFREDINOL

81Ystyr “uned cyfeirio disgyblion” ac ymadroddion cysylltiedig

(1)

Yn y Ddeddf hon, mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru).

(2)

Yn y Ddeddf hon—

(a)

ystyr yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned, a

(b)

ystyr y pwyllgor rheoli, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yw’r pwyllgor (os oes un) a sefydlir i weithredu fel y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned o dan reoliadau a wneir o dan Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996.