RHAN 7CYFFREDINOL

80Ystyr “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” ac ymadroddion cysylltiedig

(1)

Yn y Ddeddf hon—

(a)

ystyr “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” yw addysg feithrin a ddarperir⁠—

(i)

gan berson ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,

(ii)

o dan drefniadau a wneir rhwng y person hwnnw ac awdurdod lleol yng Nghymru, drwy arfer dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau addysg feithrin o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), a

(iii)

yn gydnabyddiaeth am y cymorth ariannol a ddarperir gan yr awdurdod o dan y trefniadau;

(b)

ystyr “addysg feithrin” yw addysg lawnamser neu ran-amser sy’n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd yr oedran ysgol gorfodol;

(2)

Yn y Ddeddf hon—

(a)

mae darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn berson y mae awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ag ef drwy arfer dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau addysg feithrin o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a

(b)

mae awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o’r disgrifiad hwnnw ar gyfer yr addysg honno.